Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Mawrth, 25 Medi 2018

Amser: 09.01 - 10.34
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5065


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

David J Rowlands AC (Cadeirydd)

Rhun ap Iorwerth AC

Janet Finch-Saunders AC

Mike Hedges AC

Tystion:

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc)

Kathryn Thomas (Dirprwy Glerc)

Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriad gan Neil McEvoy.

 

</AI1>

<AI2>

2       Deisebau newydd

</AI2>

<AI3>

2.1   P-05-827 Y ffyrdd o amgylch Trago Mills/Parc Manwerthu Cyfarthfa

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

aros am farn y deisebydd am y wybodaeth a roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet cyn trafod a ddylid cymryd rhagor o gamau ar y ddeiseb.

 

</AI3>

<AI4>

2.2   P-05-829 Gwahardd Eitemau Plastig Untro yng Nghymru

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

</AI4>

<AI5>

2.3   P-05-830 Ailagor Canolfan Feddygol Dewi Sant, Pentwyn, yn Amser Llawn

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ddilyn gohebiaeth y cyfeiriwyd ati gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a cheisio ymateb i'r materion a godwyd yn y ddeiseb.

 

</AI5>

<AI6>

2.4   P-05-831 Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu'r enghreifftiau a roddwyd gan y deisebwyr a gofyn am arwydd o'r amserlenni ar gyfer penderfynu ar fuddion y cynllun ar gyfer 2018/19.

 

</AI6>

<AI7>

2.5   P-05-832 Diwygio’r Cod Derbyn i Ysgolion ynghylch Plant a Anwyd yn ystod yr Haf

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn am ragor o wybodaeth am yr adolygiad o'r Cod Derbyn i Ysgolion, gan gynnwys ei gwmpas a'i amserlenni arfaethedig, cyn trafod rhagor o gamau ar y ddeiseb.

 

</AI7>

<AI8>

2.6   P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid ysgolion gwledig

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser ar gyfer dadl ar y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn.

 

</AI8>

<AI9>

3       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI9>

<AI10>

3.1   P-05-794 Gostwng yr Oedran Pleidleisio i Un ar Bymtheg

Trafododd y Pwyllgor ddatganiad ysgrifenedig diweddar gan y Llywydd a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil y ddeddfwriaeth a gyhoeddwyd i ostwng yr oedran pleidleisio isaf i 16 oed ar gyfer etholiadau'r Cynulliad ac awdurdodau lleol, a llongyfarch y deisebwyr ar lwyddiant eu hymgyrch.

 

</AI10>

<AI11>

3.2   P-05-798 Gwasanaethau cymorth i ddynion sy'n ddioddefwyr trais yn y cartref i gael eu rhedeg a'u cyllido'n annibynnol

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Arweinydd y Tŷ a'r deisebydd a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Arweinydd y Tŷ i ofyn i'r Pwyllgor gael gwybod pan fydd y dadansoddiad o ymgynghoriad diweddar Llywodraeth Cymru ar y Canllawiau Comisiynu Rhanbarthol yn cael ei gyhoeddi cyn trafod y ddeiseb ymhellach yn sgil hynny.

 

</AI11>

<AI12>

3.3   P-04-399 Arferion lladd anifeiliaid

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-04-433 a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet er mwyn:

 

</AI12>

<AI13>

3.4   P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-04-433 a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet er mwyn:

 

</AI13>

<AI14>

3.33P-05-717 Sefydlu Hawliau Mynediad Cyhoeddus Statudol i Dir a Dŵr Mewndirol at Ddibenion Hamdden a Dibenion Eraill

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd a'r deisebydd a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog i'r ymgynghoriad diweddar ar Reoli Cynaliadwy ar Adnoddau Naturiol, a rhagor o fanylion am ei dull arfaethedig o gael mynediad at ddiwygio, yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

</AI14>

<AI15>

3.6   P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru

Trafododd y Pwyllgor Ddatganiad Deddfwriaethol diweddar y Prif Weinidog, ynghyd â sylwadau'r deisebydd, a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yn ystod y 12 mis nesaf. Roedd y Pwyllgor hefyd am longyfarch y deisebydd a'i chefnogwyr ar lwyddiant eu hymgyrch ar y mater hwn.

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn am y wybodaeth ychwanegol a geisir gan y deisebydd.

 

</AI15>

<AI16>

3.7   P-05-809 Is-ddeddfau Pysgota arfaethedig Newydd a methiannau Cyfoeth Naturiol Cymru

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-810 a chytunodd i gadw briff gwylio ar y mater yn ystod yr ymchwiliad cynllunio lleol a gynhelir gan yr Arolygiaeth Gynllunio.

 

</AI16>

<AI17>

3.8   P-05-810 Rhowch Gyfle i Glybiau Pysgota Cymru ac Eog a Brithyll y Môr

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-809 a chytunodd i gadw briff gwylio ar y mater yn ystod yr ymchwiliad cynllunio lleol a gynhelir gan yr Arolygiaeth Gynllunio.

 

</AI17>

<AI18>

3.9   P-05-813 Gwahardd y DEFNYDD O FAGLAU LARSEN (maglau dal sawl math o frân)

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan randdeiliaid a chytunodd i aros am farn y deisebwyr am yr ohebiaeth a gafwyd, cyn trafod rhagor o gamau ar y ddeiseb.

 

</AI18>

<AI19>

3.10P-05-815 Rheoli’r Diwydiant Dofednod Dwys sy’n Ehangu’n Gyflym yng Nghymru

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a'r deisebydd a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn:

 

</AI19>

<AI20>

3.11P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â deisebau P-05-767 a P-05-792 a chytunodd i gau'r deisebau yn sgil y sicrwydd a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth y bydd y deisebau a barn cymunedau lleol yn cael eu hystyried yn ystod yr Adolygiad Terfyn Cyflymder parhaus, a'r posibilrwydd na allai'r Pwyllgor Deisebau gymryd llawer o gamau pendant eraill.

 

</AI20>

<AI21>

3.12P-05-767 Cefnffordd yr A487 Trwy Dre Taliesin: Angen Brys am Fesurau Effeithiol i Arafu Traffig

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â deisebau P-05-767 a P-05-792 a chytunodd i gau'r deisebau yn sgil y sicrwydd a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth y bydd y deisebau a barn cymunedau lleol yn cael eu hystyried yn ystod yr Adolygiad Terfyn Cyflymder parhaus, a'r posibilrwydd na allai'r Pwyllgor Deisebau gymryd llawer o gamau pendant eraill.

 

</AI21>

<AI22>

3.13P-05-792 Deiseb i ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ym Mlaenporth.

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â deisebau P-05-767 a P-05-792 a chytunodd i gau'r deisebau yn sgil y sicrwydd a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth y bydd y deisebau a barn cymunedau lleol yn cael eu hystyried yn ystod yr Adolygiad Terfyn Cyflymder parhaus, a'r posibilrwydd na allai'r Pwyllgor Deisebau gymryd llawer o gamau pendant eraill.

 

</AI22>

<AI23>

3.14P-05-820 Peidiwch â chymryd Castell-nedd oddi ar y brif reilffordd

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil ymrwymiad a wnaed na fyddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynnig i leihau gwasanaethau i orsaf Castell-nedd, nac oddi yno, a llongyfarch y deisebwyr ar lwyddiant eu hymgyrch wrth wneud hynny.

 

</AI23>

<AI24>

3.15P-05-823 Gostwng y terfyn cyflymder ar yr A487 ym Mhenparcau

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn a oes cynlluniau, ar hyn o bryd, i wella'r A487 o ystyried ei phwysigrwydd strategol a'r ffaith ei bod yn mynd drwy nifer fawr o bentrefi lle mae pryderon ynglŷn â chyflymder y traffig.

 

</AI24>

<AI25>

3.16P-05-732 Amseroedd Aros Annerbyniol ar gyfer Cleifion y GIG yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam/Ysbyty Wrecsam Maelor

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am bwnc y ddeiseb ers gohebiaeth flaenorol, ac am fanylion ei ymateb i ganfyddiadau ac argymhellion Adolygiad Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru i brofiad cleifion mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys a ffigurau diweddar sy'n ymwneud ag amseroedd aros yn Ysbyty Wrecsam Maelor.

 

</AI25>

<AI26>

3.17P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol a Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ynghyd â sylwadau'r deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Cafcass Cymru i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu canllawiau arfer newydd ac am fanylion sut yr ystyrir mabwysiadu dull Cafcass yn Lloegr, yn sgil y pryderon a fynegwyd gan y deisebwyr.

 

</AI26>

<AI27>

3.18P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r deisebydd a chytunodd i lunio adroddiad ar y ddeiseb i'r Pwyllgor ei drafod.

 

</AI27>

<AI28>

3.19P-05-795 Achosi Niwsans neu Aflonyddwch ar safleoedd y GIG

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i aros am ragor o wybodaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet fel y cynigiwyd yn ei ohebiaeth ddiweddaraf.

</AI28>

<AI29>

3.20P-05-826 Mae sir Benfro yn dweud NA!! i gau adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg!

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda a chytunodd i drafod y ddeiseb eto yn dilyn y ddadl sydd i'w chynnal ar y ddeiseb hon yn fuan a chyfarfod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar 26 Medi.

 

</AI29>

<AI30>

3.21P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Cymwysterau Cymru a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i rannu'r farn a fynegwyd gan y deisebydd a gofyn am safbwynt Llywodraeth Cymru ar y polisi a amlinellwyd gan Cymwysterau Cymru mewn perthynas â phynciau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

</AI30>

<AI31>

3.22P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ofyn am y wybodaeth ddiwetharaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg am waith sydd ar droed er mwyn:

 

</AI31>

<AI32>

3.23P-05-821 Ailgyflwyno cyllid cymorth addysgol i awdurdodau lleol ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a'r deisebydd a chytunodd i rannu copi o adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y mater hwn. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i dynnu sylw at y ddeiseb pan fydd y Pwyllgor hwnnw yn craffu'n fuan ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019/20.

 

</AI32>

<AI33>

3.24P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth!

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a sylwadau gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau'r DU ynghylch datblygu treth bosibl ar blastigau untro pan fo'n briodol.

 

</AI33>

<AI34>

3.25P-05-822 Gwahardd gwellt plastig (wrth yfed llaeth) yn ein hysgolion

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

</AI34>

<AI35>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer gweddill y cyfarfod heddiw:

Derbyniwyd y cynnig.

 

</AI35>

<AI36>

5       Adroddiad drafft - P-05-690 Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan-Y Fenni

Cytunodd yr Aelodau ar yr adroddiad drafft ar y ddeiseb.

 

</AI36>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>